Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 26 Mai 2022
Amser: 10.09 - 13.27
Gellir gwylio’r cyfarfod
ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12824
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS |
Tystion: |
Steffan Evans, Sefydliad Bevan Shavanah Taj, TUC Cymru Leighton Jenkins, CBI Cymru Llŷr ap Gareth, Federation of Small Businesses Cymru Professor Mark Shucksmith, Prifysgol Newcastle Ceri Cunnington, Cwmni Bro Ffestiniog Chris Noice, Cymdeithas Siopau Cyfleustra Jackie Blackwell, Cyngor ar Bopeth Ynys Môn Deborah Hann, Citizens Cymru Wales |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Isobel Pagendam (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon
Nododd Sam Kurtz AS ei fod yn gyfarwyddwr elusen CFfI Cymru, sydd wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru. Nododd Sarah Murphy AS ei bod yn aelod o Sefydliad Bevan, yn ogystal ag undebau llafur. Nododd Hefin David AS ei fod yn aelod o Sefydliad Bevan. Nododd Vikki Howells AS ei bod yn aelod o Sefydliad Bevan.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi
2.1 Llythyr gan Weinidog yr Economi
2.2 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer y sesiwn newydd
2.3 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.4 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gwir Anrhydeddus Grant Shapps AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth
2.5 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
3 Costau Byw – Gweithlu
3.1 Atebodd Dr Steffan Evans, Shavanah Taj a Dr Deborah Hann gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor
4 Costau Byw – Busnesau
4.1 Atebodd Leighton Jenkins, Dr Llyr ap Gareth a Chris Noice gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor
5 Costau byw - Cymunedau gwledig
5.1 Atebodd yr Athro Mark Shucksmith, Ceri Cunnington a Jackie Blackwell gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor
6 Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd
6.1 Gohiriwyd yr eitem hon tan 13 Gorffennaf 2022
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
8 Preifat
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn